amdanaf un noson. Y syniad oedd eu bod yn dyfod yn gyf-rinachol ar y cychwyn, er mwyn edrych ansawdd y tir, ond nid oedd eu dull yn awgrymu hynny. Daethant mewn car, gyda phlisman ar y step; nid yw Caernarfon yn dref fawr ond teimlent hwy na allent gael hyd i'm tŷ heb blisman i'w harwain, ac yr oedd gweled tri dyn dieithr, pob un a'i sigar, a phlisman yn eu hebrwng, yn sicr o dynnu cryn lawer o sylw, hyd yn oed mewn tref fel Caernarfon, sydd wedi hen arfer â dieithriaid o bob lliw a llun. Gwelais yn fuan nad oedd gan Austin Harrison y syniad lleiaf am Gymru nac am y teimlad Cymreig, ac ofer oedd ceisio goleuo dim arno ar y pen hwnnw. Chwarae teg iddo, credaf fod ei amcan yn gwbl onest a di-hunan; teimlo yr oedd fod dyfodol gwareiddiad yn di-bynnu ar gael Cyngrair y Cenhedloedd a wnai ryfel yn amhosibl, a phwy a wad erbyn heddiw ei fod yn ei le? Teimlai hefyd nad oedd y Prif Weinidog, y pryd hynny ar ei awr anterth, eto wedi datgan ei farn yn ddigon pendant ar hynny, ac y byddai yn werth iddo ef ei aberthu ei hun, megis, er mwyn galw sylw at yr angen am argyhoeddi pobl o ddifrifwch y safle.
Gwyddai pawb mai diobaith hollol oedd yr ymgyrch. Yr oedd Lloyd George i bob pwrpas yn feistr nid yn unig ym Mhrydain ond hefyd yn Ewrob ar y foment. Yr oedd ar fan uchaf ei boblogrwydd, y rhyfel wedi ei ennill, i raddau pell trwy ei ynni a'i benderfyniad ef, a'r rhan fwyaf o'r pleidiau gwleidyddol yn ei law, llawer o'u harweinwyr yn ei Gabinet ac yntau yn dweud wrth yr etholwyr pwy i'w ddewis a phwy i'w wrthod. Dyna oedd ei safle yn y wlad yn gyffredinol, ond yr oedd ei safle yn ei wlad ei hun yn gryfach hyd yn oed na hynny. Yno yr oedd serch tuag ato, edmygedd naturiol ohono, ac ymlyniad dall a hollol anfeirniadol wrtho wedi mynd yn fath o grefydd. Cabledd oedd ei feirniadu; pechod anfaddeuol oedd ei wrthwynebu. Ac yr oedd yn lled anodd