Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd yn oed i'r ychydig a oedd yn meddwl mai bod meidrol, agored fel meidrolion eraill i wneud camgymeriadau, oedd Lloyd George, deimlo llawer o frwdfrydedd dros Sais mor Seisnig ag Austin Harrison, boed ei gymhellion cyn bured ag y bont. Cafodd gryn drafferth i gael neb i'w enwi, ond cafodd ambell gyfarfod go lew, ac yn y diwedd cafodd 1,095 o bleidleisiau. Y mae'n wir i Lloyd George gael 13,993, ond syndod i bawb, ac i Austin Harrison ei hun, oedd fod dros fil o bobl wedi pleidleisio iddo ef.

Yn yr etholiad trychinebus hwnnw,—credaf y cytunasai Lloyd George ei hun â'r ansoddair yn niwedd ei ddyddiau—lladdwyd y blaid Ryddfrydol a thaflwyd aelod ar ôl aelod allan o'r senedd. Onid oedd y Prif Weinidog wedi dywedyd mai cynorthwywyr ac nid beirniaid oedd yn eisiau? Gwrthododd Sir Gaernarfon Ellis Davies, a oedd wedi ei ddangos ei hun yn Radical da ac yn aelod da, ac yn ei etholaeth ei hun rhoddwyd y coupon yn erbyn Llewelyn Williams. Penderfynodd yntau beidio sefyll, gan feddwl, y mae'n debyg, nad oedd waeth iddo heb ar y pryd. I bob golwg, yr oedd y Prif Weinidog yn oruchaf.

Er hynny, yr oedd arwyddion y gallai y craff eu canfod fod y gwynt yn tueddu i newid. Ym Môn gorchfygwyd Syr Ellis Griffith, er iddo gael cefnogaeth Lloyd George. Yn sir Gaernarfon yr oedd y pleidleisiau o blaid Ellis Davies, y Rhyddfrydwr rhydd, ac R. T. Jones, yr ymgeisydd Llafur, yn gyfanswm o bedair mil ar ddeg, o'i gymharu a'r deng mil a hanner a roddwyd i C. E. Breese, ymgeisydd y Coalisiwn. Yr oedd poblogrwydd y Prif Weinidog ar ei anterth, ond yr oedd ambell lef ddistaw, fain yn darogan fod yr awr anierth yn myned heibio. Er hynny, yr oedd ganddo rai blynyddoedd i fod mewn awdurdod eto, a'r rhai hynny yn flynyddoedd digon digalon, blynyddoedd y cytundeb heddwch a oedd yn bopeth ond cytundeb heddwch, blynyddoedd gwarth y