Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Black and Tans yn Iwerddon, blynyddoedd polisi tramor chwit-chwat a pholisi cartref na wyddai neb yn iawn beth ydoedd. Teimlai llawer fod egwyddorion pwysig mewn perygl a chododd rhai eu llef o'u plaid er bod gwneud hynny yn dra amhoblogaidd, yn enwedig yng Nghymru. Yr oedd Llewelyn Williams yn un o'r rhai a gadwodd y lamp i losgi yn y nos.

Yn yr eisteddfod y byddwn yn ei weled amlaf. Yr oedd yn Llywydd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ŵr amlwg yn y cylch hwnnw bob amser. Prin y byddai cyfarfod yr Orsedd yn gyflawn heb araith ganddo ef oddiar y Maen Llog, a byddai ei areithiau yn bur dderbyniol. Huodledd cryg oedd yr eiddo ef. Ni ellid honni bod ganddo lais peraidd na llithrigrwydd ymadrodd neilltuol, ond yr oedd ganddo dân a chariad angerddol at Gymru ac at Gymraeg. Yr oedd ganddo hiwmor hefyd, ac yr oedd tinc cefn gwlad sir Gaerfyrddin yn amlwg yn ei siarad. Dyna oedd ei gefndir, y tu ol i Rydychen a'r llysoedd a'r senedd. Bywyd a phobl "sir Gâr", yn enwedig ei bywyd a'i phobl "slawer dydd" oedd ei fywyd a'i bobl yntau. Deuai hynny i'r golwg yn aml.

"Dancia!" meddai mewn cwmni unwaith, a gwydrau y cafodd eu benthyg am ei fod wedi gadael ei rai ei hun ar ôl yn llithro oddiar ei drwyn, "Dancia! Rhaid i chi roi benthyg y'ch trwyn i fi yn gystal a'ch spectol!" Felly y siaradai, fel un o bobl ei ardal ei hun, pa le bynnag y byddai, a phan ysgrifennodd amdanynt, yn "'Slawer Dydd" er enghraifft, yr oedd ei serch atynt hwy a'u bywyd yn amlwg iawn, er ei fod ef wedi hen adael y maes a bywyd ei gyndadau a throi yn gyntaf i fyd papurau newydd ar ol dyfod o Rydychen a chyn myned yn fargyfreithiwr. Y mae gan bob Cymro a'i henwogodd ei hun gefndir o'r fath, Môn i Oronwy a John Morris-Jones;