Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hiraethog i Gwynn Jones; Eifionnydd i Lloyd George; Cwm Rhondda i Ben Bowen. Y mae Cymry byw sydd yn ymwybodol o gefndir felly o hyd er iddynt fyned ymhell oddi-wrtho. Y mae'r cefndir, yr hen gysylltiadau, yr hen fywyd, yr hen gymdogaeth, y gymdeithas Gymreig, yn rhan hanfodol o'u bywyd ac o'u nerth. Ni buasent yr un bobl heb y cefndir ac ni allasent wneud yr un gwaith. Dyna bwysigrwydd y gymdeithas yr ydym fel Cymry yn rhan ohoni, a dyna, hefyd, esboniad ar fethiant ambell Gymro a adawodd y gymdeithas honno. Llawr gwlad sir Gaerfyrddin a'i fywyd 'slawer dydd oedd cefndir a noddfa Llywelyn Williams. Yno yr oedd ei gysur. Yno yr oedd ei nerth.

Ac am ei fod yn fab mor ffyddlon i sir Gaerfyrddin yr oedd yn fab mor deyrngar i Gymru hefyd. Carai ei sir a'i wlad yn angerddol; carai eu hanes, eu traddodiad, eu llenyddiaeth a'u pobl. Yr oedd yn Rhydychen yr un pryd a John Morris-Jones a tho o Gymry a oedd i wneud eu marc mewn bywyd, a'i wneud fel Cymry, Owen Edwards, D. Lleufer Thomas ac Edward Anwyl yn eu plith. Yr oedd Rhydychen yn y blynyddoedd hynny, beth bynnag, yn fagwrfa dynion a oedd i osod Cymru yn eu dyled, yn llawn cymaint felly, y mae'n debyg, ag y bu un o'n colegau Cymreig. Yr oedd bywyd ieuanc, newydd Cymru yn blaendarddu yno. Cymerodd Llewelyn Williams ei ran yn y bywyd hwnnw; uwch ben Cywydd Priodas John Morris Jones iddo y mae'r geiriau, "Cywydd Priodas W. Llewelyn Williams, gynt o Goleg y Trwyn Pres, Rhydychen, a chynt Arch-arogldarth-ydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym; y pryd hynny yn Olygydd 'Seren y Deheu'; yn awr yn Seneddwr dros Fwrdeisdrefi Sir Gaerfyrddin".

O'm da ethol gymdeithion,
Ac ni bu un llu mor llon,
Y llonnaf oll ohonynt,—