meddai John Morris-Jones amdano yn y Cywydd hwnnw.
Ni welais ef yn y llys erioed, ond clywais rai o'i gyfeillion wrth y bar yn sôn amdano yno. Ni feddai ddisgleirdeb Ellis Griffith na'i arabedd miniog, ond dywedid ei fod yn ddycnach ymladdwr mewn achosion anodd. "Yr oedd Ellis Griffith", meddai un bargyfreithiwr wrthyf, "ar ei orau mewn achos lle'r oedd yn bur debyg o ennill. Yr oedd Llewelyn Williams ar ei orau mewn achos lle'r oedd perygl mawr iddo golli. Yr oedd yn dynn iawn ei afael, ac ni ildiai i'r diwedd. Gwelais ef yn ennill achosion lle'r oedd popeth o'r bron yn ei erbyn, a hynny yng ngrym ei benderfyniad a'i allu i drin rheithwyr. Yr oedd yn effeithiol iawn gyda rheithwyr; gallech feddwl mai dyn plaen, cartrefol ac hyd yn oed dibrofiad, a fyddai yn dadlau'r achos, ond gwyddai y cyfreithwyr profiadol o'i gwmpas pa mor fedrus a chyfrwys oedd ei ddadl a'i gynllun yn aml". Cafodd lawer o waith cyfreithiol a bu'n ymddangos mewn rhai achosion pwysig.
Fel seneddwr yr oedd fwyaf adnabyddus i Gymru, arwahan i'w waith a'i safle yn yr Eisteddfod Genedlaethol,—ac nid oes ond cyfran o bobl Cymru yn myned i'r eisteddfod nac yn cymryd diddordeb ynddi. Er hynny, y mae'n anodd dywedyd paham yr oedd mor adnabyddus fel seneddwr. Ni chafodd swydd; nid oedd yn areithiwr poblogaidd, fel Lloyd George neu William Jones, er bod ganddo yntau fath o huodledd a gallu i lunio brawddegau a oedd yn glynu yng nghof ei wrandawyr. Ond ni bu erioed yn adnabyddus iawn fel siaradwr ar y llwyfan gwleidyddol yn y Gogledd, er enghraifft; er hynny gwyddai pawb yn y Gogledd, yn ogystal ag yn y De, amdano. Hwyrach y gellid priodoli hynny, i ryw raddau, i'w amlygrwydd ar y Maen Llog a llwyfan yr eisteddfod, eithr nid oedd hynny yn cyfrif am y cwbl. Credaf fod llawer yn teimlo fod Llewelyn Williams fel gwleidydd yn cynrychioli rhywbeth Cymreig a sylfaenol yn eu credo hwythau, yr hen weriniaeth