Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd, ac felly yr edrychai Llewelyn Williams arni. Y mae'n debyg ei bod yn un o'r etholiadau poethaf a fu mewn blynyddoedd diweddar; yr oedd gynnau mawr ar y naill ochr a'r llall yn tanio, ac yr oedd nifer o bobl nad oeddynt fel rheol yn cymryd rhan gyhoeddus mewn gwleidyddiaeth yn ei theimlo yn ddyletswydd arnynt ddangos eu hochr yn yr ymgyrch honno. Gŵr ieuanc oedd Mr. Ernest Evans ar y pryd, adnabyddus iawn yn y sir ar gyfrif ei deulu ac uchel ei barch, wedi gwasanaethu yn y fyddin ac wedi bod yn ysgrifennydd cyfrinachol i Lloyd George.

Y diwedd fu i Mr. Evans gael 14,111 o bleidleisiau a Llewelyn Williams 10,521. Credai Llewelyn Williams fod dau allan o bob tri o Ryddfrydwyr y sir wedi pleidleisio iddo ef a bod naw mil o Doriaid wedi pleidleisio ar yr ochr arall. Y wers a dynnodd ef oddiwrth y canlyniad oedd nad oedd Lloyd George mwyach, hyd yn oed mewn ymddangosiad, yn arweinydd cenedlaethol. "He is," meddai, "the chief of a faction, mainly Tory".

Hen helyntion, adlais hen frwydrau pell yn ôl, ydyw y pethau hyn bellach, ond bu iddynt eu rhan mewn gwneud Cymru yr hyn ydyw ac y mae yn rhaid sôn amdanynt wrth geisio darlunio Llewelyn Williams. Ni bûm yn sir Aberteifi yn ystod yr etholiad, ond cofiaf am araith Llewelyn Williams yn dilyn y canlyniad, araith a oedd yn brawf o'i allu i gyffwrdd calon gwerin gwlad ac hefyd o'i gydymdeimlad â hi. Yr oedd yn eglur erbyn hyn bod yr adwaith yn erbyn Lloyd George wedi dechrau ond na fynnai yr elfen swyddogol yn y blaid Ryddfrydol yng Nghymru weled hynny. Ni bu erioed arweinwyr mwy dall.

Erbyn hynny yr oedd y diwedd yn agos yn hanes Llewelyn Williams. Bu farw, yn bymtheg a deugain mlwydd oed, ym mis Ebrill, 1922. Bellach nid yw ond enw i lawer fel cyfreithiwr a gwleidydd ond erys o hyd fel llenor. Cododd ei