gofadail ei hun yn ei "Slawer Dydd", yn "Gŵr y Dolau", yn "Gwilym a Benni Bach" ac yn "The Making of Modern Wales". Y mae'n bosibl mai 'Slawer Dydd, gyda'i ddarluniau o fywyd a chymeriadau cefn gwlad yn sir Gaerfyrddin, a fydd byw hwyaf o'i holl lyfrau; ynddo disgrifiai'r bywyd a garai, yr hen bethau yr hiraethai amdanynt a'r cymeriadau a hoffai. Ganed ef yn 1867 ac yr oedd am hynny yn medru cofio Cymru a oedd yn wahanol iawn i'r hyn ydyw heddiw. Mynnai ef ddiogelu pethau gorau y Gymru honno, yn enwedig ei hiaith a'i gweriniaeth gymdogol iach. Nid oes un amheuaeth am ei gariad llosg at ei wlad ac at ei iaith a gwnaeth ei orau erddynt.
Cyfeiriais eisioes at y gwahaniaeth rhyngddo ef ag Ellis Griffith; megis y dywedai rhai y buasai Ellis Griffith wedi gwneud gwell llenor neu actor na gwleidydd na bargyfreithiwr, felly mynnai eraill mai hanesydd oedd Llewelyn Williams o ran greddf a dawn. Cwbl ofer ydyw dyfaliadau felly; y mae'n rhaid i ni gymryd y dynion fel yr oeddynt ac fel y cym-erasant eu rhan ar lwyfan bywyd Cymru. I'r Bar ac i wleid-yddiaeth yr oedd llawer o wŷr ieuanc galluocaf Cymru yn mynd yn y cyfnod hwnnw, fel yr aent i'r pulpud genhedlaeth yn gynharach. Yr oedd Ellis Griffith a Llewelyn Williams yn hoff o lenyddiaeth ac yr oedd gan y ddau gefndir cefn gwlad yng Nghymru. Mantais Llewelyn Williams ydyw iddo adael gwaith llenyddol ar ei ôl a erys yn gofadail iddo. Ni wnaeth Ellis Griffith hynny er fod greddf y llenor a'r bardd yn gref ynddo. Llanwodd y ddau le amlwg ym mywyd eu gwlad yn eu dydd, ac wrth edrych yn ol ar eu cyfnod y mae'n anodd peidio teimlo ei fod yn fwy byw, yn fwy lliwgar ac yn llawn-ach o ddynion diddorol na'r cyfnod yr ydym yn byw ynddo yn awr.