Erbyn hyn yr oedd y gynulleidfa ac Anthropos wedi dyfod atynt eu hunain ac aeth gwaith y cyfarfod ymlaen fel arfer. Yr oedd y peth yn enghraifft o fedrusrwudd rhyfedd Alafon. Gwelodd y perygl i'r cyfarfod orffen yn gynamserol, ac yn naturiol nid oedd arno ef, a gymerodd y drafferth i ddyfod o'r Ysgoldy, cyn bod bus, eisiau myned adref ar ei gythlwng. Neidiodd i'r adwy, neu, yn fwy cywir, llithrodd iddi cyn bod neb yn sylweddoli ei fod yn gwneud hynny; edrychodd mor ddwys a neb yn y cwmni, dywedodd ei stori mewn llais mwyn, tawel; ymddangosai yn hollol ddigynnwrfa bron yn ddiniwed,—ond gwnaeth yr hyn y bwriadodd ei wneud a rhywbeth na allasai neb arall yn y cwmni ei wneud. Yr oedd Alafon yn ddiniwed fel colomen, a gallai fod yn gyfrwys fel y sarff ar adegau hefyd.
Gweinidog yn yr Ysgoldy, yn ardal Deiniolen yn sir Gaernarfon oedd Alafon. Ni bu yn weinidog yn unman arall, ac hyd y gwn i ni bu yn meddwl am fod. Nid oedd fawr o sôn amdano fel pregethwr; y cof sydd gennyf am Alafon fel pregethwr ydyw fod ganddo fater da, wedi ei drefnu yn ddestlus, ond ei fod yn traddodi braidd yn ddigyffro ac weithiau yn ddiafael. Fel bardd yr oedd yn adnabyddus i Gymru gyfan, ond yr oedd y cylch yr oedd yn byw ynddo yn adnabod ac yn parchu ac yn caru y dyn. Hen lanc oedd, a llawer o nodweddion gorau yr urdd yn ei gymeriad, rhyw yswildod bonheddig, mwyn. Yr oedd yn batrwm o weinidog gwlad, y math o ŵr sydd yn cadw'r eglwysi yn fyw ymhob man.
Fel bardd perthyn yr oedd, o ran magwraeth a thraddodiad, i'r cyfnod o flaen y deffroad rhamantaidd. Pan oedd yn ieuanc yr oedd yn adnabod llawer o feirdd cyfnod a ymddengys i ni yn bur bell erbyn hyn; soniai am Ioan Arfon, am Eos Bradwen, am Lew Llwyfo ac am Owen Williams o'r Waun Fawr, ac yr oedd ganddo lawer stori amdanynt.