Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dywedodd wrthyf unwaith ei fod, newydd ei ordeinio, yn cerdded ar hyd Stryd Fangor, yng Nghaernarfon, gyda'r Parch. Ddr. John Hughes a gweinidog adnabyddus arall nad wyf yn cofio ei enw erbyn hyn. A dyna Llew Llwyfo yn dyfod allan o ddrws gwesty'r Prince of Wales yn syth i'w cyfarfod ac yn dweud mewn llais fel taran, "Alafon, fendigedig yr Arglwydd! sut yr wyt ti?"

"Mi fuasai'n dda gen i pe buasai'r palmant wedi fy llyncu i y munud hwnnw", meddai Alafon wrth ddweud yr hanes. "Wyt ti'n gweld lliw derw ar ein dannedd ni?" meddai Owen Williams, yr hen eiriadurwr cartref a'r cowper o'r Waun Fawr, a fyddai bob amser yn cyfeirio ato ei hun fel "ni", wrth Alafon. "Wyddost ti bedi'r rheswm? Byta mês y byddem ni pan yn blentyn!" A gan Alafon y cefais i y stori am Owen Williams yn myned adref trwy goed Glanrafon un noson, yn bur ansicr ei gam a'i olwg, ac yn taro mewn coeden ar ol coeden. O'r diwedd dyma'r hen ŵr yn eistedd. "Wel", meddai wrtho ei hun, "ni a eisteddwn yn y fan yma hyd onid elo'r orymdaith heibio!"

Yr oedd yr ochr hon i Alafon braidd yn annisgwyliadwy i rai nad oeddynt yn ei adnabod yn dda. "Drych o dristwch yw edrych drosto", meddai amdano ei hun un tro, ac yr oedd golwg ddifrif, os nad trist hefyd, arno. Yr oedd mwynder yn amlwg yn ei ddull a'i lygaid. Yr oedd yn hynod o gwrtais a boneddigaidd, boneddigeiddrwydd oedd yn codi o ddyfnder ei natur ef ei hun, ac fel y dywedwyd, yr oedd ynddo rhyw fath o yswildod. Ond yr oedd ynddo hefyd yr ochr a fedrai fwynhau pobl fel Llew Llwyfo ac Owen Williams, heb gymysgu a'u byd o gwbl. Wrth y tân yn fy nhŷ un noson, ag yntau yn aros gyda ni ar ol cyfarfod Awen a Chân, gofynnodd a oeddwn wedi clywed "Yr hen ŵr mwyn". Nid oeddwn y pryd hynny, a chanodd yntau yr hen gerdd fel y dylid ei