chanu, gan fwynhau ei digrifwch a phwysleisio'r pethau yr oedd eisiau eu pwysleisio.
Wrth wrando arno meddyliais fy mod yn camgymeryd wrth feddwl mai gŵr yn perthyn i'r un ysgol a beirdd hanner olaf y ganrif oedd Alafon; yr oedd ei dras yn hŷn na hynny a'i berthynas â rhywbeth mwy byw a mwy diddorol. Buasai yn hapus gydag Edward Morus a Huw Morus ac Owen Gruffydd o Lanystumdwy, buasai yn deall Twm o'r Nant i'r dim ac yn dweud llawer wrtho am gadw ar ganol y llwybr, a phe buasai ef ag Ellis Wynne wedi cyfarfod, ac Ellis Wynne wedi darllen darn o'r Bardd Cwsg iddo, buasai Alafon wedi dweud, "Tad annwyl, 'rydach chi'n chwipio yn bur drwm, ond y mae'n debyg i bod nhw yn i haeddu hi". Nid oedd Alafon, fwy nag Anthropos, yn perthyn mewn gwirionedd i fyd y bardd-bregethwr. Nid oeddynt yn debyg i'w gilydd, ond y mae hynny yn sicr yn wir am y ddau.
Y peth oedd yn ddiddorol iawn yn Alafon fel bardd a llenor oedd ei agwedd at yr "ysgol newydd" a'i beirdd. Yr oedd yn ymgeisydd am gadair Bangor yn 1902, a daeth yn ail i Gwynn Jones—ail pell, mewn gwirionedd, a bu ar hyd ei oes yn un o gyfeillion pennaf a chywiraf y bardd a'i trechodd. Yr oedd ganddo ddiddordeb byw yn y mudiadau newydd a pharch mawr i ysgolheictod, ac yr oedd ei agwedd at feirdd fel W. J. Gruffydd a Gwynn Jones a John Morris-Jones yn gymysgedd o agwedd tad caredig a disgybl edmygol. Ni cheisiodd efelychu; dilynodd ei lwybr ei hun, canodd ei gân ei hun, ac yr oedd ei nodyn yn sicr.
Mewn un peth yn unig yr oedd yn debyg i rai o feirdd-bregethwyr ei gyfnod. Canai weithiau i briodasau pobl a ystyriai ef yn bwysig, ac ambell dro ceisiai ganu yn Saesneg. Dyna ei fan gwan, y mae'n debyg; yn sicr, dyna bethau gwannaf ei waith o ddigon ac nid oes eisiau eu hatgyfodi. Un o nodweddion y cyfnod oedd hyn ac un o nodweddion dosbarth