hefyd, y mae'n debyg. Yr oedd gwerinwyr fel Alafon, wedi cael addysg a safle fel gweinidogion neu rywbeth arall, yn tueddu i'w teimlo eu hunain mewn byd nad oeddynt yn hollol gartrefol ynddo. Yn y bôn, yr oedd Alafon yn ŵr bonheddig; yr oedd hynny yn amlwg—neu dylasai fod yn amlwg—i bawb, ond ni feddyliodd ef amdano ei hun fel gŵr bonheddig, yn ystyr boblogaidd y gair. Pobl gyfoethog oedd "gwyr bonheddig", a chan nad oedd gweinidogion Ymneilltuol yn dyfod lawer i gyffyrddiad ag uchelwyr y tir tueddai rhai ohonynt i dra mawrhau Cymry a oedd wedi casglu cyfoeth ac yn parhau yn Ymneilltuwyr. Yr oedd ochr ddigrif i'r wrogaeth yma a delid i bobl gyffredin iawn eu galluoedd yn unig am eu bod yn ymddangos yn bwysig, ond yr oedd ochr anffodus i'r peth, hefyd.
Na feddylied neb fod Alafon yn gynffonnwr. Nid oedd yn ddim o'r fath, ond yr oedd yn cytuno â safonau ei gyfnod a'i ddosbarth—fel y gwna y rhan fwyaf ohonom. Heblaw hynny, yr oedd ynddo wyleidd-dra a gostyngeiddrwydd naturiol. Deuai hynny yn amlwg yn ei berthynas â'i waith fel bardd. Yr oedd bob amser yn cydnabod, a hynny yn hollol ddirodres a chywir, iddo gael ei guro yn deg gan Gwynn Jones yn eisteddfod Bangor. Cydnabyddai ragoriaeth y bywyd newydd a ddaeth i mewn i lenyddiaeth Cymru tua diwedd y ganrif, ond ni chafodd y "clefyd rhamantaidd' ei hun ac ni cheisiodd efelychu pobl fel Gwynn Jones a W.J. Gruffydd. Er hynny, credaf y gwyddai yn eithaf beth oedd gwir werth ei gerddi ef ei hun; nid oedd yn eu gorbrisio nac yn eu dibrisio yn ormodol chwaith. Yr oedd ganddo feddwl go lew o rai ohonynt a chredaf y cytuna yr oes ar ei ôl a'i farn amdanynt.
Yn ei gartref yn yr Ysgoldy yr oedd gweled Alafon ar ei orau. Bu yn aelod o gyngor sir Arfon, ond yn sicr ni ddisgleiriodd yn y fan honno. Hwyrach mai gormodiaith rhywun