Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ei alw yr aelod salaf a fu yno—bu digon o rai salach ymhob ystyr cynt a chwedyn—ond nid oedd yn ei le yn y cyngor. Gwelid ef yn y dref yn aml, ar ei feisicl fel rheol, yn ei ddal ei hun yn bur syth yn y cyfrwy, a deuai i edrych amdanaf weithiau i hen offis y Genedl. Byddai yno yn fynych pan oedd yn golygu'r Drysorfa, canys yno yr oedd swyddfa argraffu honno hefyd. Clywais ef yn pregethu amryw weithiau, ond nid oes gennyf fawr o gof am ei bregethau; y mae'n bur debyg eu bod yn dda fel cyfansoddiadau, ond difywyd oedd y traddodiad ac fel "pregethwr sych" y cyfrifid ef. Nid oedd yn llythyrwr neilltuol; byddai ei lythyrau bob amser yn glir ac i'r pwynt ond nid oedd dim tebyg i ddawn Gwynn Jones neu Llew G. Williams yn y cyfeiriad hwnnw ynddo ef. Os oeddych am adnabod Alafon yn iawn yr oedd yn rhaid i chwi ei weled mewn dau le,—ar eich haelwyd eich hun ac yn ei ardal yntau.

Pan fu farw Alafon pechais yn enbyd yn erbyn ei hen gymydog od a galluog, Glan Alaw, trwy ddweud mewn ysgrif goffa ei fod wedi byw y rhan fwyaf o'i oes mewn ardal anghysbell. Methodd Glan Alaw ag ymatal hyd yn oed yn angladd Alafon rhag dweud y drefn. Rhyfeddai ataf, meddai ef ar goedd, yn galw'r Ysgoldy yn lle anghysbell; y lle mwyaf central yn y wlad. Ond cyn dyfodiad y buses, ac nid oedd y rhai hynny ond pethau newydd yn 1916, blwyddyn marw Alafon, yr oedd yr Ysgoldy yn lle gweddol anodd cyrraedd ato. Y mae ddwy filltir go dda o'r stesion agosaf, ac wedi i chwi gael y tren i Gwm y Glo yr oedd yn rhaid cerdded y gweddill o'r ffordd ar hyd gelltydd pur serth.

Unwaith y byddwch wedi cyrraedd y mae'r ardal yn un eithaf dymunol, yng nghesail y mynyddoedd ac yn wynebu'r Elidir a'r Wyddfa o un cyfeiriad. Tua'r gorllewin y mae'r dyffryn yn ymagor a gwelir y gweunydd maith a'r caeau llechweddog i gyfeiriad Caernarfon a cheir cip ar Ynys Fôn