yn y pellter. Ardal greigiog, galed, ar un olwg, sir Gaernarfon a'i hesgyrn trwy'r croen, fel y dywedodd rhywun; ardal dawel hefyd, yn meddu ar ei phrydferthwch ei hun, harddwch ei grug a'i chriafol, ei llecynnau rhedynnog ar lannau ambell ffrwd, a chlytwch ei bythynnod glanwaith. Ardal, hefyd, a'i phobl yn debyg iddi ar lawer ystyr, yn gymysg o'r graig a'r grug, o'r maes a'r mynydd,—chwarelwyr oedd y rhan fwyaf yr adeg yr oedd Alafon yn byw yno, pobl wedi eu magu a'u meithrin yn yr Ysgol Sul, yn sŵn dadleuon diwinyddol, yn yr athrawiaeth Radicalaidd, ac, mewn blynyddoedd cymharol ddiweddar, ar dudalennau'r Cymru Coch. Pobl anodd myned atynt ar yr olwg gyntaf, wedi arfer trin cerrig ac weithiau yn ymdebygu i'r cerrig eu hunain, ond pobl eithaf caredig a ffyddlon wedi i ddyn ennill eu hymddiried.
Gwnaeth Alafon hynny. Bûm yn edrych amdano droeon ac yn myned am dro gydag ef weithiau ar hyd ffyrdd a llwybrau'r ardal. Yr oedd yr un fath gyda phobl ei ofal ag ymhobman arall, yn fwyn, yn dawel, yn naturiol, gyda rhyw ias o yswildod yn ei ddull. Ac yr oedd yn amlwg ei fod yn eu hadnabod ac yn eu hoffi. Yr oedd yn amlwg hefyd ei fod yntau yn uchel ei barch yn eu plith hwythau. Bu yno am flynyddoedd lawer, ac y mae gweinidog ymroddgar sydd yn aros yn hir yn yr un eglwys yn magu perthynas arbennig iawn â phobl ei ofal yn nhreigliad y blynyddoedd. Fel tad y symudai Alafon ymhlith pobl ei ardal. Nid oeddwn yn gwybod pa rai oedd yn perthyn i'w gorlan ef o'r bobl a gyfarfyddem ar ein tro, ond yr argraff a adawyd ar fy meddwl oedd na wnai unrhyw wahaniaeth rhwng ei braidd ei hun a defaid corlannau eraill. Pobl yr ardal, ei gymdogion, oeddynt oll iddo ef, a chymerai ddiddordeb caredig, tadol ynddynt. Byddaf yn meddwl am Alafon bob tro y darllenaf Gweinidog Llan y Mynydd Gwynn Jones; nid darlun ohono ef