Ond yr oedd rhywbeth gwaeth na'r gewynwst wedi gafael ynddo a chredaf ei fod yntau yn gwybod hynny.
Ar y ffordd goediog, dawel rhwng Pont Rug a Chaeathro y gwelais ef am y tro olaf. Gwyddwn ei fod yn gwaelu ers tro, ond teimlais ias o ddychryn wrth weled ei wedd mor guriedig y diwrnod hwnnw. Hyd hynny nid oeddwn wedi meddwl fod dim angeuol wedi gafael ynddo, ond nid oedd le i amheuaeth erbyn hyn. Yr oeddwn yn sicr fod dyddiau fy hen gyfaill wedi eu rhifo. Gwyddai yntau hynny ond ni ddychrynodd rhag angau. Yr oedd cyn fwyned, cyn daweled a chyn sirioled ag erioed. Ni ddiffoddodd ei hiwmor; yr oedd yn cael tipyn o ddifyrrwch am ei ben ei hun wrth ddweud ei fod yn ymprydio. Dywedodd air am brydferthwch y coed yn y gaeaf-mis Tachwedd oedd hi, os iawn y cofiaf-a daeth goleuni i'w lygaid wrth son am hynny. Yr oedd yn eistedd mewn cerbyd bychan, cerbyd a merlyn yn ei dynnu, a deallais ei fod bron yn rhy wan i gerdded. Soniai am wella, a minnau yn gwybod ar y dinc yn ei lais y gwyddai yn dda nad oedd gwella i fod.
Am y dewrder tawel hwnnw y byddaf yn cofio wrth feddwl am Alafon. Cyn pen hir yr oeddwn yn ei angladd ym Mryn-rodyn, ac yr oedd yn anodd peidio dyfalu beth a ddywedasai ef am yr areithiau hir a draddodwyd yn ei gylch y diwrnod hwnnw. Y mae'n well gennyf gofio am yr adar yn y stydi ac am y cerbyd bach ar y ffordd ddistaw dan gysgod y coed.