Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

JOHN RHYS EVANS 1864-1944

HYD y gwn, ni wnaeth neb astudiaeth o ddylanwad yr ysgolion sir—yr ysgolion gramadeg fel y'u gelwir heddiw—ar fywyd Cymru. Yn sicr, bu'r dylanwad hwnnw yn fawr, er daioni ac, efallai, er drwg hefyd. Y mae mewn bod bellach ers tua trigain mlynedd ac wedi treiddio i bob ardal, a bron i bob cartref, trwy'r wlad. Yr oedd Cymry yn cael addysg uwchraddol cyn dyfodiad yr ysgolion sir, wrth gwrs; yr oedd ambell hen ysgol, fel Ysgol Tŷ Tan Domen, yn y Bala, ysgol Botwnnog, yn Llŷn, ac ysgol y Friars, ym Mangor, hen ysgol Goronwy Owen, i'w chael yma a thraw ar hyd y wlad, ac yr oedd cryn nifer o bobl, yn ffermwyr ac eraill, yn anfon eu plant i Loegr am eu haddysg.

Yn y cyfnod cyn dyfod yr ysgolion sir âi bechgyn a merched o ardaloedd Cymreig i'r Amwythig, i Lundain, i'r Mechanics' Institute i Lerpwl, i ysgolion preifat i Gaer, Bryste, Edinburgh, Birmingham a mannau eraill, am eu haddysg, ac yr oedd cryn nifer o ysgolion preifat yng Nghymru hefyd, megis ysgol enwog Ystrad Meurig, yr Academi yn Holt, yr Academi arall yn Nhowyn Meirionnydd, ac ysgol Bransby yng Nghaernarfon. Ond nid oedd addysg uwchraddol wedi dyfod yn beth i bawb; yr oedd llawer nad oeddynt yn myned ymhellach na'r ysgol elfennol yn eu hardal, a pheth cymharol ddiweddar oedd honno.

Pan sefydlwyd yr ysgolion sir daeth yn fater o falchder gan rieni anfon eu plant iddynt; yr oedd y gwahanol ysgoloriaethau yn denu a daeth elfen o gystadleuaeth i mewn i'r peth. Heblaw hynny, yr oedd yr ysgol sir yn ysgol yn ymyl,