ac yr oedd gan bobl yr ardal falchder lleol ynddi. Yr oedd rhai ohonynt ar fwrdd ei llywodraethwyr, a'r rhan fwyaf yn teimlo bod ganddynt rhyw berthynas â hi. Cyn pen ychydig iawn o amser ar ol sefydlu'r ysgolion hyn daeth mynd i'r ysgol sir yn rhan o fywyd pob ardal. Honnir weithiau mai cariad at addysg oedd y tu ol i hyn ac i "roddi'r geiniog brin at godi'r coleg", a buasai yn ddymunol allu teimlo fod hynny yn wir. Y mae'n sicr fod yna beth cariad at addysg er ei mwyn ei hun, ond yn gymysg a hynny yr oedd y gred faterol, galed, mai trwy gael addysg yr oedd dyfod ymlaen yn y byd. Pan ddywedodd y diweddar J. J. Williams wrthyf mai ei waith ef fel prifathro ysgol ganol y Cefnfaes ym Methesda oedd galluogi bachgen neu eneth oedd i fod yn chwarelwr neu yn wraig i chwarelwr yn chwarel Cae Braich y Cafn i fyw bywyd cyfoethocach o ran meddwl, gyda diddordebau eangach, yr oedd yn traethu peth a fuasai yn peri i aml un ryfeddu. Nid oedd y syniad yna am addysg fel diwylliant ac allwedd i ddedwyddwch wedi gwawrio ar feddwl y rhan fwyaf yng Nghymru. Dyfod ymlaen yn y byd mewn ystyr faterol iawn oedd delfryd addysgol lliaws.
Dyna a wynebai brifathrawon yr ysgolion newydd pan ddaethant at eu gwaith. A siarad yn gyffredinol, bu Cymru yn eithriadol ffodus yn yr athrawon hyn, ac wrth edrych yn ôl y mae'n syn o ba le y cafwyd hwynt, llawer ohonynt yn Gymry, a phob un yn ieuanc ac yn gymharol ddibrofiad. Beiir hwynt weithiau am na buasent wedi rhoddi lliw mwy Cymreig ar yr ysgolion, ac y mae lle i gredu fod rhai o'r ysgolion wedi Seisnigo'r plant i ryw raddau,—ac weithiau i raddau go bell. Eglurhad, nid esgus, ydyw dywedyd mai dynion a merched a gafodd eu haddysg yn Lloegr neu dan ddylanwad syniadau Seisnig oedd y rhan fwyaf o'r athrawon a'r athrawesau. Ym mhrifysgolion Lloegr y graddiodd llawer ohonynt, ac ysgolion Seisnig—snobyddiaeth Seisnig