Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hefyd, weithiau—oedd eu patrymau pan yn torri tir newydd yng Nghymru. Anffawd oedd hynny, y mae'n ddiamau, ond y mae'n rhaid cydnabod y buasai angen dyn o feddwl anghyffredin o annibynnol a gwreiddiol i wneud yn wahanol yn y cyfnod hwnnw. Ac y mae'n sicr, pe bai arloeswr felly wedi dyfod i'r maes, na chawsai gefnogaeth ei reolwyr na rhieni'r cylch y pryd hynny. Y mae'n rhaid i ni gymryd athrawon ac athrawesau'r ysgolion sir cynnar fel yr oeddynt, a chredaf ei bod yn rhaid arnom gydnabod i'r rhan fwyaf ohonynt wneud eu gwaith yn dda o fewn terfynau'r delfryd oedd ganddynt. Agorasant ffenestri newydd i feddwl Cymru.

Prifathro cyntaf ysgol sir Porthmadog, yn sir Gaernarfon, oedd John Rhys Evans. Yr oedd ef yn athro o hil gerdd, ei dad yn berchenog ac yn brifathro y Salop School yng Nghroesoswallt, a'i daid yn cadw ysgol yn Aberystwyth ac wedi bod yn un o athrawon Dr. Lewis Edwards. Bu ei dad, cyn myned i Groesoswallt, yn cadw ysgol breifat ym Mhorthaethwy, ac yng Nghaernarfon cyn hynny. Yr oedd yr ysgol yng Nghaernarfon yn olyniaeth hen ysgol enwog Evan Richardson, mi gredaf. Yng Nghaernarfon y ganed John Rhys Evans ond symudodd ei rieni oddiyno pan oedd ef yn faban. Yr oedd ganddo gof am fyw ym Mhorthaethwy, ond Croesoswallt oedd ei wir gefndir. Ei ddolen gydiol â'r bywyd Cymreig yn y dref honno, tref a rydd argraff arnoch ei bod yn fwy Cymreig nag ydyw, oedd y capel Cymraeg, lle'r oedd ei dad yn flaenor, ond pan ddaeth Rhys Evans yn ŵr ieuanc i Borthmadog rhydlyd iawn oedd ei Gymraeg ac yn y capel Saesneg yr ymaelododd.

Cafodd yrfa lwyddiannus yng Nghaergrawnt. Yr oedd yn fathamategydd da, a gwyddem ni'r plant a oedd yn yr ysgol iddo raddio yn uchel. Yr oedd gan y wybodaeth honno ddylanwad arnom; ond yr oedd agweddau eraill i'r prifathro a oedd yn dylanwadu llawn cymaint arnom. Yr oedd yn