gerddor da, yn codi canu yn y capel, bu yn flaenor yno am flynyddoedd lawer,—yn canu'r ffidl, yn ŵr yr oedd yn rhaid gwneud cyfrif ohono ar gae'r bel droed, wrth chwarae tennis, ac ar y cae hoci, yn ddringwr mynyddoedd, hyd yn oed yn y gaeaf. Yn raddol daeth rhai ohonom i wybod am ei hoffter o flodau, am ei chwaeth dda mewn darluniau ac am ei ddarllen eang ar lyfrau hen a diweddar. Gwyddem ei fod yn darllen Groeg er mwyn pleser, ac edmygem a rhyfeddem. Ychydig ohonom oedd wedi cyfarfod gŵr mor amrywiol ei ddiddordebau o'r blaen. Ehangder ei ddiwylliant, a'r ffaith nad oedd yn gwneud unrhyw arddangosiad o'r diwylliant hwnnw, oedd dirgelwch ei ddylanwad ar lawer ohonom. Yr oedd yn athro da, ond tybiaf mai'r addysg orau a gawsom ganddo oedd dyfod i gyffyrddiad â'i ddiwylliant eang a'i ddiddordeb byw, deallus, mewn llawer o bethau. Y dyn, yn fwy na'r athro, oedd yn bwysig.
At hyn y mae yn rhaid ychwanegu'r parch a oedd gennym. i'w gymeriad. Rhywfodd, medrai bachgen ddeall fod John Rhys Evans yn ddyn cywir ac nad oedd yn proffesu dim nad oedd yn ei gredu ac yn ceisio ei weithredu. Ar yr olwg gyntaf nid oedd yn ddyn dengar, ac ni ellid ei alw yn ŵr cymdeithasgar ar hyd ei oes. Nid oedd ganddo lawer i'w ddweud wrth bobl os na byddai yn eu hadnabod yn dda; fel rheol gwelech ef yn cerdded heolydd Porthmadog ar ei ben ei hun, yn bur syth ac annibynnol yr olwg arno. Er iddo fyw yno yn hir, y mae'n amheus a fu ganddo lawer o gyfeillion agos yno. Yr oedd, efallai, cyn agosed at y Parch. W. J. Nicholson ag y bu at neb. Yr oedd ganddo gyfaill neu ddau o'r hen amser yng Nghroesoswallt, eithr yn anaml y byddai yn eu gweled ac, ar wahân i'w fywyd teuluaidd hapus, gellid ei alw yn ddyn unig. Yr oedd ar delerau da a'r rhan fwyaf, pherchid ef gan bawb, ond dyn pell, cwta ei ymadrodd, yr ystyrid ef gan y rhai nad oeddynt yn dyfod yn agos iawn ato.