Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cofiaf fel y byddai pobl Porthmadog yn rhyfeddu ato yn cerdded trwy'r dref yn y gaeaf heb gôt fawr, dyn byr, tenau, ysgafn, camarweiniol o eiddil ei olwg (gwyddai'r sawl a'i cyfarfu ar faes y bel droed rywbeth am hynny), a byr ei air. Pan aeth oddiyno i fyw collwyd gŵr a oedd yn adnabyddus trwy ei fynd a'i ddod ar hyd heolydd y dref, ond ychydig a oedd erioed wedi bod mewn perthynas agos iawn ag ef.

Gwyddem ni yn yr ysgol am ochr arall iddo; yn wir, gwyddem am amryw na wyddai y byd oddiallan amdanynt. Gallai golli ei dymer yn sydyn, ac yr oedd ei law yn drom y pryd hynny. Gwelais ef yn taro un bachgen mawr—yr oedd bechgyn ar fin dyfod yn ddynion yn yr ysgolion sir yn y cyfnod hwnnw—a geisiodd fod yn ddigywilydd nes y bu bron iddo a chwympo. Fflam sydyn a ffyrnig oedd ei ddigofaint, ond yr oedd arnom ni fwy o ofn ei ddirmyg oer. "Yr wyf yn tosturio wrthyf fy hun", meddai wrthym unwaith, yn troi ac yn ail-droi cynffon ei own yn ei law, "am fy mod yn gorfod byw ynghanol haid o farbariaid". Yr oedd rhai o'r bechgyn wrth redeg i lawr y grisiau wedi taro un o enethod yr ysgol yn ddamweiniol, ac yr oedd diffyg cwrteisi felly yn ei gythruddo. Yr oedd yn gwrtais ei hun bob amser, a bob amser yn dwt a glanwaith ei wisg. Yr oedd hynny hefyd yn dylanwadu arnom.

Yr ochr fwyaf annisgwyliadwy arno yn yr ysgol oedd ei serchogrwydd. Pan roddai ei fraich am eich hysgwydd a gofyn pa beth oedd yn eich poeni yn y wers, teimlech y medrech siarad ag ef fel gyda'ch tad. Yr oedd yn garedig iawn wrth y sawl a fyddai yn gweithio, er i'r gwaith hwnnw fod yn ddigon carbwl, ond nid oedd ganddo ddim trugaredd at y diog o fwriad. Nid wyf yn sicr a oedd cyn graffed ag ambell athro arall a welais i ganfod addewid mewn bachgen neu eneth yr oedd eu meddwl yn gweithio braidd oddiar y llinellau cyffredin, ond ni welais ei ragorach am beri i chwi deimlo