Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod safon o gymeriad, o waith ac o fyw yn bod, ac y dylid ymestyn ati. Dysgodd lawer o bethau i ni ond dylanwad ei gymeriad oedd ei ddylanwad mawr.

Ymhen blynyddoedd lawer ar ôl dyddiau ysgol siaradwn am Rhys Evans gyda swyddog a fu yn yr ysgol pan oedd ef yn brifathro. "Mi fûm yn chwarae triwant am y rhan orau o wythnos unwaith", meddai hwnnw wrthyf, "a phan eis yn ôl i'r ysgol mi fûm ar y carped. Mi ddwedais innau 'mod i wedi bod yn sâl. Mi wyddai Rhys Evans o'r gorau 'mod i'n deud celwydd, ond y peth ddwedodd o oedd ei fod yn fy nhrystio i i ddweud y gwir. Ydach chi'n meddwl y medrwn i ddeud celwydd wrtho fo wedyn? Mi gofiaf y wers tra bydda' i byw, ac 'rydw i wedi ymdrechu trin pobol ifanc y bydd yn rhaid i mi wneud efo nhw fel y triniodd Rhys Evans fi—dangos iddyn' nhw fy mod i'n credu yn eu anrhydedd nhw. Mi synnech mor amal y mae'r peth yn llwyddo. Y mae dull Rhys Evans yn siŵr o fod yn talu".

Wedi iddo ymneilltuo o'r ysgol dywedais y stori yna wrth Rhys Evans, ac ychwanegais air am ei ddylanwad moesol ar bawb ohonom. "Dyna'r peth yr oeddwn i'n meddwl fy mod i'n fethiant hollol ynddo", meddai yntau braidd yn drist, a chefais, er fy syndod, ei fod mewn gwirionedd yn credu ei fod wedi methu dylanwadu ar gymeriadau ei ddisgyblion. Tybiai ei fod yn athro pur dda iddynt gyda'u gwersi eithr ofnai nad oedd ganddo ddylanwad arall. Buaswn innau yn dweud yn ddibetrus mai dylanwad distaw a diarwybod ei gymeriad oedd y peth mawr yn ei hanes, ac y mae yn debyg mai am ei fod yn ddiarwybod yr oedd mor gryf. Pe buasai wedi pregethu wrthym y mae'n fwy na thebyg y buasai'r pregethu wedi llithro oddiar ein meddyliau yn fuan iawn. Ond yr oedd ei esiampl a dylanwad distaw ei bersonoliaeth yn barhaol.

Yr oedd ganddo syniad uchel am waith a swydd athro. Ni