Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwŷr Enwog Gynt Cyfrol II.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fynnai golli awr o amser yr ysgol; byddai yno cyn pryd bob amser ac ni chredai y dylai athrawon fod yn rhy fanwl ynghylch amser noswyl. "Os oes gennych wir ddiddordeb yn eich gwaith," meddai unwaith, "ni byddwch yn barod i'w adael ar orchymyn y cloc." Credai y dylai gwaith athro fod yn alwad yn ogystal ag yn alwedigaeth, a phoenid ef gan agwedd faterol mewn athrawon. "Y peth cyntaf a'r peth olaf," meddai, "ydyw budd y plant sydd o dan eich gofal."

Yr oedd ganddo ei ddulliau ei hun fel athro. Dysgid Euclid yn yr ysgolion y pryd hynny a chofiaf yn dda iawn am fy mhrofiad cyntaf o'i ddull ef o'i ddysgu. Yr oedd amryw ohonom yn newydd yn y dosbarth, wedi dyfod i ysgol sir am y tro cyntaf yn ein hoes. Ar ddiwedd y diwrnod cyntaf rhoddodd y broblem gyntaf yn llyfr cyntaf Euclid i ni i'w dysgu erbyn drannoeth, ymhlith pethau eraill. Ni roddodd air o gyfarwyddyd, a gwn fy mod i, beth bynnag, mewn dyfroedd dyfnion yn fy llety'r noson honno. Drannoeth, a llawer ohonom yn hollol o dan ein dwylaw, galwodd ar fachgen a oedd yn yr ysgol ers un tymor, i wneud y deiagram ar y bwrdd du a dywedodd wrtho am fyned trwy'r broblem, heb y llythrennau, hynny ydyw, yn lle dweud "angle A and line B.C", yr oedd yn rhaid iddo ddweud "angle this and line that". A dyna ben ar obeithion y rhai oedd wedi dysgu'r broblem ar eu cof. Llwyddodd rhai i weled yr ymresymiad ac i fynd trwy'r oruchwyliaeth gyda'r bwrdd du yn gywir er yn garbwl, ac yr oedd ganddynt grap ar ystyr Euclid o'r awr honno.

Yr oedd y peth yn nodweddiadol o ddull Rhys Evans; ceisio peri i'w ddisgyblion feddwl drostynt eu hunain oedd ei amcan ef. Teimlech hynny gyda'i wersi mewn Hanes yn arbennig, ac ni ofnai ddweud ei farn am ddigwyddiadau a phersonau hanesyddol. Gwahoddai farn ei ddisgyblion hefyd ac ni ddirmygai farnau amrwd iawn. Y mae'n debyg fod pawb ohonom yn teimlo, yn ddiarwybod, efallai, ein bod yn