Tudalen:Gwaith-Mynyddog-Cyfrol-2.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gall dwylaw malais ddod ryw bryd
I aflonyddu'n heddwch,
Ond gofyn gwaetha dwylaw'r byd
I rwygo'n cyfeillgarwch.

DEWCH I GNEUA

GEIRIAU RHANGAN (Part Song)

(Y Gerddoriaeth gan Mr. D. Lewis, Llanwrtyd)

O dewch i gneua tua'r coed,
Fa, la, la,
Yn llawen galon, ysgafn droed,
Fa, la, la;
Cawn eistedd dan y gwyrddion ddail,
A chwareu ym mhelydrau'r haul,
A thorri cneuen bob yn ail,
Fa, la, la.
Cawn weld dedwyddwch 'deryn bach,
Fa, la, la,
Yn trwsio pluf ei aden iach,
Fa, la, la;
A'i weld yn esgyn fry i'r nen,
Neu'n canu ar y gainc uwchben,
A ninnau'n canu wrth fôn y pren,
Fa, la, la.
Ar ol yspeilio'r llwyni cyll,
Fa, la, la,
Cawn ddychwel adref gyda'r gwyll,
Fa, la, la;
Cawn gydymdwymno a mwynhau
Wrth danllwyth mawn y bwthyn clau,
A chanu cân, a thorri cnau,
Fa, la, la.