Tudalen:Gwaith Alun.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AT EI RIENI

Athrofa'r Iesu, Rhydychen,
Chwefror, 11fed, 1826.

ANWYL RIENI,

Yn lle esgus dros fod yn ddistaw cyhyd, rhoddaf i chwi hanes byr o'r modd yr ydwyf yn byw. Wrth ymdrechu dyfod i fyny gyda y rhai a gawsant bob mantais ysgolheigaidd ym moreu eu hoes, yr wyf yn gorfod bod yn ddiwyd iawn wrth fy llyfrau. Nid ydyw treiddio i mewn i ieithoedd ond gorchwyl sych a diffrwyth, ac i un yn fy sefyllfa i, o ran gwall cyfleusterau boreuol, y mae yn waith digon caled. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, yr wyf yn cael fod "darllen llawer yn flinder i'r cnawd." Nid ydyw caethiwo fy hun i fyfyrdod wedi cael un effaith ddrwg ar fy iechyd eto. Aeth cyfaill i mi, a ddarllenasai lawer llai na mi, adref ddoe wedi ei nychu gan ormod o waith. Y mae fy nghorff yn gadarn wrth natur, ond yr wyf yn gorfod cerdded allan rywfaint bob dydd, er mwyn ei gadw mewn trefn.

Bu holiad cyffredin yn ddiweddar ar holl aelodau ein Coleg ni. Aethum drwyddo yn well nag yr oeddwn i na'm hathrawon yn disgwyl. O hyn i wyl Mihangel nesaf, rhaid imi fyned drwy ffwrn boethach nag a brofais eto,—cael fy holi ar gyhoedd o flaen yr holl Brif-ysgol, am fy ngwybodaeth o'r Lladin a'r Roeg, a Rhesymeg. Rhaid i mi hefyd ddysgu ysgrifeni Lladin mor rhwydd â Chymraeg. Yr wyf yn fynych yn crynu wrth feddwl am y frawdle, yn enwedig wrth weled cynnifer a gawsant eu dwyn i fyny yn yr ysgolion goreu o'u mebyd, yn colli'r dydd. Y