Tudalen:Gwaith Alun.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae fy mhwys yn bennaf ar y Rhagluniaeth oruchel a fu mor dyner tuag ataf hyd yn hyn. Y'mhellach, yr wyf yn ystyried mai fy nyledswydd ataf fy hun—at fy nghynalwyr—ac at y plwyfolion a gaf ryw dro, hwyrach, o dan fy ngofal—ydyw lloffa cymaint ag a allaf o wybodaeth am bob dysg a chelfyddyd. Gwelodd y caredig Mr. Clough a Mr. Phillips fy awyddfryd am bob hyfforddiad, a chymerasant fi gyda hwynt i wrando y darlithoedd a draddodir gan ein prif ddysgedigion ar y celfyddydau breiniol. Y diweddaf a glywais oedd yr enwog Ddoctor Buckland, areithydd ar natur y ddaear, ei chreigydd a'i meteloedd. Pan ddeuaf adref gallaf roddi i chwi rai newyddion am weithiau glo a phlwm. Hawdd i chwi weled fod y gofalon a'r gorchwylion hyn yn difa fy holl amser, ac nid hyn yw y cwbl. Wrth aneddu yn Nhrefaldwyn a Rhydychen, ffurfais gydnabyddiaeth â llawer o foneddigion,—rhai o honynt, o ran dysg a dawn, ym mhlith y gwyr enwocaf yn y deyrnas. Nid oes boreu braidd yn myned heibio nad wyf yn derbyn llythyr o ryw gwr neu gilydd i'r wlad. Nid oes gennyf, gyda chwareu teg, amser i ateb un o honynt; ac os bydd un gohebwr y gallaf hyderu ar ei gyfeillgarwch i beidio digio wrthyf, yr wyf yn gadael iddo aros nes elo fy helbul yn yr athrofa heibio. Fy mwriad yn myned dros yr holl bethau hyn ydyw, i ddangos i chwi a'm hanwyl gyfeillion, Mr. Thomas Jones ac Isaac, yr unig achos na ysgrifenais atoch oll lawer cyn hyn. Os gwelwch ddim yn yr hyn a ddywedais, yn mynegi yr anrhydedd anisgwyliadwy a ddaeth i'm rhan, gwybyddwch mai nid er mwyn cynhyrfu