Tudalen:Gwaith Alun.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CYWYDD Y GWAHAWDD

A anfonwyd mewn llythyr o wahoddiad Medi 6ed,
1826, oddiwrth Ifor Ceri, at Wilym Aled a'i Gywely.

Eto, Aled, atolwg
Gad si'r dre', a mangre mŵg;
Gad Saeson, gwawd, a sisial
Arian, a thincian, a thâl;
Gad wbwb a gwau diball
Mammon i feibion y fall
Rho i'th law,—pryd noswyliaw sydd,
Eleni un awr lonydd;
Gwamal i ti ogymaint
Hela myrdd, a holi maint
Ydyw gwerth yr indigo,
A ffwgws, heb ddiffygio,
Gan na cheir gennych hwyrach
Weled byth un Aled bach,
Na geneth, a drin geiniog
O dyrrau llawn dy aur llog.
O fewn llong tyrd tros gefn llwyd
Y Mersey, heb ddim arswyd,—
A'th gymar sydd werth gemau
Prysurwch, deuwch eich dau
I Geri, fan hawddgaraf,
Man gwâr, lle mae hwya'r hâf
Mor loewlon y mae'r lili
A'r rhos yn eich aros chwi,
A phleth rydd yr adar fflwch,
Hyd awyr, pan y deuwch;
Cewch eich dau wenau uniawn
Ifor a Nest, fore a nawn
(Yma diolch raid imi
"Amen dywed gyda mi,"
Ddwyn Ifor, gan Dduw nefol,
A'i wiw Nest, i Geri'n ol)