Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Alun.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

At un Nest dda west, ddiwall,
Tyred a dy Nest arall;
Braint cyn bedd, cael medd a maeth
Maesaleg un mis helaeth;
Y mae sylwedd Maesaleg,
A'i dôr, yn y Geri deg.

Y mae un gwr mwy nag oll,
Awch digoll uwch ei degan
Ifor bach sydd a'i ferw byth,
Drwy gofio yn dragyfyth;
"Mae'r gwr yn mhryd mebyd mau,
Enynnodd hen awenau
Y glyn, nes oedd bryn a bro,
A gwig las, yn gogleisio;
Ai pell—ai trapell y trig—y gwiwddyn
Fynnai delyn a cherdd fy Nadolig?"

Tyrd Aled, ira d'olwyn,
A thyrd i ddoldir a thwyn;
Ac awyr lem Ceri lân,
Perarogl copa'r Aran;
Gwrandaw sibrwd y ffrwd ffraw—rhwng deilfur,
Y dwr eglur yn trydar wrth dreiglaw;
Rhodio i wrando'r ehedydd,
Dringo'r bryn ar derfyn dydd;
Hufen Nest a chân Ifor,
A dŵr mad, drwy rad yr Ior,—
Wnant it' neidio a gwisgo gwên,
Deui'n foch-goch,—doi'n fachgen.

Gan Alun, gwan wehelyth,
O fwrdd i fwrdd, wael fardd fyth,—
Gwely nid oes, nac aelwyd,
Na bir i'w gynnyg, na bwyd,—
Cei law a chalon lawen,
A mwy ni cheisi, Amen.