Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Alun.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CWYN AR OL CYFAILL

Pan hirarosai yn Rhydychen, Mehefin, 1827.

(Efelychiad o "Bugail Cwmdyli," gan I. G. G.)

Trwy ba bleserau byd
Yr wyt yn crwydro c'yd?
Mae pleser fel y lli',
A'r moethau goreu i mi
Yn wermod hebot ti,
Sior anwylaf.

Trwm wibio llygad llaith
Am danat yw fy ngwaith;
A rhodio godre'r bryn,
A gwyrddion lannau'r llyn,
Lle rhodit ti cyn hyn,
Sior anwylaf.

Mae peraidd flodau d'ardd
Yn gwywo fel dy fardd;
A'th ddefaid hyd y ddôl,
A'u gwirion ŵyn o'u hol
Yn gofyn ddo'i di'n ol,
Sior anwylaf.

Mae'n Nghymru laeth a mêl,
Mae'n Nghymru fron ddi-gêl,
Mae'n Nghymru un yn brudd
O'th eisiau, nôs a dydd,—
A'i gair wrth farw fydd,
Sior anwylaf.