Tudalen:Gwaith Alun.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MARWOLAETH YR ESGOB HEBER

Lle treigla'r Caveri[1] yn donnau tryloewon
Rhwng glennydd lle chwardd y pomgranad a'r pîn
Lle tyfa perlysiau yn llwyni teleidion,
Lle distyll eu cangau y neithdar a'r gwîn;
Eisteddai Hindoo ar lawr i alaru,
Ei ddagrau yn llif dros ei riddiau melynddu,
A'i fron braidd rhy lawn i'w dafod lefaru,
Ymdorrai ei alaeth fel hyn dros ei fin—

"Fy ngwlad! O fy ngwlad, lle gorwedd fy nhadau!
Ai mangre y nos fyddi byth fel yn awr?
Y Seren a dybiais oedd Seren y borau,
Ar nawn ei disgleirdeb a syrthiodd i lawr;
Y dwyrain a wenai, y tymor tywynnodd,
A godrau y cwmwl cadduglyd oreurodd,
Disgwyliais am haul—ond y Seren fachludodd
Cyn i mi weled ond cysgod y wawr.

"Fy ngwlad! O fy ngwlad! yn ofer yr hidlwyd
I'th fynwes fendithion rhagorach nag un,
Yn ofer âg urdd bryd a phryd y'th anrhegwyd,
Cywreindeb i fab, a phrydferthwch i fun;
Yn ofer tywynni mewn gwedd ddigyfartal,
A blodau amryliw yn hulio dy anial,
A nentydd yn siarad ar wely o risial,
A pbob peth yn ddwyfol ond ysbryd y dyn.

"Yn ofer y tardd trwy dy dir heb eu gofyn
Ddillynion per anian yn fil ac yn fyrdd;

  1. Caveri.—Afon yn Ngorllewin Hindostan, a lifa heibio Trichinopoly, claddfa yr Esgob Heber, ac a ymarllwysa i fôr Coromandel wrth Tranquebar.