Yn ofer y gwisgwyd pob dôl a phob dyffryn
A dillad Paradwys yn wyn ac yn wyrdd;
Yn ofer rhoi awen o Nef i dy adar,
A gwythi o berl i fritho dy ddaear;
Yn ofer pob dawn tra mae bonllef a thrydar
Yr angrhed a'i anrhaith yn llenwi dy ffyrdd.
"Dy goelgrefydd greulon wna d'ardd yn anialdir,
Ei sylfaen yw gwaed, a gorthrymder a cham
Pa oergri fwrlymaidd o'r Ganges[1] a glywir?
Maban a foddwyd gan grefydd y fam
Ond gwaddod y gwae iddi hithau ddaw heibio;
O! dacw'r nen gan y goelcerth yn rhuddo,
Ac uchel glogwyni y Malwah[2] 'n adseinio
Gan ddolef y weddw o ganol y fflam.
"Gobeithiais cyn hyn buasai enw Duw Israel,
A'r aberth anfeidrol ar ael Calfari,
Yn destun pob cerddi o draeth Coromandel,
A chonglau Bengal hyd i eithaf Tickree;[3]
Ac onid oedd Bramah yn crynu ar ei cherbyd,
Er y pryd y bu Swartz yn cyhoeddi fod bywyd
Yn angau y groes i Baganiaid dwyreinfyd?—
Pan gredodd fy nhad yr hyn ddysgodd i mi.[4]
- ↑ Ganges—prif afon India—gwrthddrych addoliad y Brahminiaid. Cyffredin ydyw i wragedd daflu eu mabanod i’w thonnau er mwyn boddio y duw Himalaya, a elwir yn Dad y Ganges.
- ↑ Y Malwah.—Rhes o fynyddoedd uchel yng nghanol Hindostan. Nid yw cyngor na cherydd Prydeiniaid yn gallu rhwystro yr arfer greulon gynhwynol o losgi gweddwon byw gyda’u gwyr meirw.
- ↑ Nid anghyffelyb Hindostan i drionglyn, Coromandel, Tickree, a Bengal, ydynt y conglau.
- ↑ Tybir bod tua 40,000 o Gristionogion, ond bod mwy na’u hanner yn Babyddion, yn y Carnatic. Nid yw prin werth crybwyll mai un o hil dyscyblion Swartz, cenadwr enwog tua chan’ mlynedd yn ol, ydyw yr Hindoo a ddychymyga yr Alarnad.