Tudalen:Gwaith Alun.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y cangau a eiliaist a droed yn adgofiant
O alar ac alaeth i'r lluoedd a'th gâr
Llygaid ein ieuenctid, a ddysgwyd i'th hoffi,
Wrth weled dy ardeb yn britho ffenestri
A lanwant, gan gofio fod ffrydiau Caveri
Yn golchi dy fynwent wrth draeth Tanquebar.

Llaith oedd dy fin gan wlithoedd Castalia,
O Helicon yfaist ym more dy oes;
Ond hoffaist wlith Hermon a ffrydiau Siloa,
A swyn pob testynau daearol a ffoes
Athrylith, Athroniaeth, a dysg yr Awenau,
A blethent eu llawryf o gylch dy arleisiau;
Tithau'n ddi-fôst a dderbyniaist eu cedau,
I'w hongian yn offrwm ar drostan y Groes.

Pan oedd byd yn agor ei byrth i dy dderbyn,
Gan addaw pob mwyniant os unit âg ef,—
Cofleidiaist y Groes, a chyfrifaist yn elyn
Bob meddwl a geisiai fynd rhyngot a'r nef
Yn Hodnet[1] yn hir saif dy enw ar galonnau
Y diriaid ddychwelwyd yn saint trwy'th bregethau—
Amddifad gadd borth yn dy briod a thithau—
Y weddw a noddaist—y wan wneist yn gref.

Gadewaist a'th garant—yn ysbryd Cenadwr
Y nofiaist tros donnau trochionog y môr,
I ddatgan fod Iesu yn berffaith Waredwr
I Vahmond Delhi, ac i Frahmin Mysore;
Daeth bywyd ac adnerth i Eglwys y Dwyrain—
Offrymwyd ar allor Duw Israel a Phrydain—
Yn nagrau a galar Hindoo gallwn ddarllain
Na sengaist ti India heb gwmni dy IÔR.


  1. Hodnet—yn Amwythig—yno y cyflawnai Heber swydd Bugail Cristionogol yn ddifefl hyd ei symudiad i India.