Tudalen:Gwaith Alun.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

O Gôr Trichinopoly, cadw di'n ddiogel
Weddillion y Sant i fwynhau melus hun,
Pan ferwo y weilgi ar lan Coromandel,
Gofynnir adfeilion ei babell bob un;—
Ond tawed ein pruddgerdd am bennill melusach,
A ganodd ein Heber ar dannau siriolach,
Yn arwyl y Bardd â pha odlau cymhwysach
Dilynir ei elor na'i odlau ei hun?

"Diangaist i'r bedd—ni alarwn am danad,
Er mai trigfa galar a niwl ydyw'r bedd;
Agorwyd ei ddorau o'r blaen gan dy Geidwad,
A'i gariad gwna'r ddunos yn ddiwrnod o hedd.
Diangaist i'r bedd—ac ni welwn di mwyach
Yn dringo rhiw bywyd trwy ludded a phoen
Ond breichiau rhad râs a'th gofleidiant ti bellach,
Daeth gobaith i'r euog pan drengodd yr Oen.

"Diangaist i'r bedd—ac wrth adael marwoldeb
Rhwng hyder ac ofn, os unwaith petrusaist,
Dy lygaid agorwyd yn nydd tragwyddoldeb,
Ac angel a ganodd yr Anthem a glywaist.
Diangaist i'r bedd—byddai'n bechod galaru,
At Dduw y diangaist—y Duw a dy roes
Efe a'th gymerodd—Efe wna'th adferu
Digolyn yw angau trwy angau y groes."[1]


  1. Cyfieithiad yw'r ddau bennill olaf o emyn Heber ei hun,—
    "Thou art gone to the grave, but we will not deplore thee,
    Though sadness and sorrow encompass the tomb."