Tudalen:Gwaith Alun.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ANGAU

Englynion a ysgrifenwyd yn ddifyfyr ym mynwent y Wyddgrug.

"Ni foddir (mae'n rhyfeddol)—chwai angau,
A chyngor dymunol;
Er wban, griddfan greddfol,
(Uthr in' yw!) ni thry yn ol.

Er gwaedd mam,—er gweddi myrdd,
Er gwên byd,—er gwyneb hardd,
Er swn cŵyn,—er seinio cerdd,
Er ing ffull, mynn angau'i ffordd.

Ni eiriach rai bach rhag bedd,—i'r cedyrn
Rhoir codwn i'r dyfn-fedd;
A mirain feibion mawredd
Ostyngir, siglir o'u sedd.

I'r llaid yr aeth fy nhaidiau,—i huno,
Fu'n heinyf er's dyddiau
I'r ystafell dywell dau,
Ryw funud, yr af innau.

Ond cael nod hynod, a hedd—yr Iesu,
A drws i dangnefedd;
Yn dawel yn y diwedd,
Af i gaban bychan bedd.


CYMDEITHAS GYMREIGYDDOL CAERLLEON

Boed llwydd, mewn pob dull addas,—a chynnydd
I'ch enwog Gymdeithas;
Heb stwr, na chynnwr, na châs—
Geni beirdd heirdd fo'i hurddas.