Tudalen:Gwaith Alun.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ie, curo beilch wyr y byd,—
Os Gwalia wen,—heb bennaeth,
A'i mawrion gwiwlon yn gaeth,—
Heb fur prawf,—heb farrau pres,
Na lleng o wyr, na llynges,—
A ymheria fy mawr-rwysg,
Heb fy nghyfri'n Rhi mewn rhwysg?
Er cweryl gyda'r cawri,
A lladd myrdd, nid llwydd i mi;
Ni fyddaf, na'm harfeddyd,
Ond gwatwor tra byddo'r byd.

"Ha! ymrwyfaf am ryfel,
O'm plaid llu o ddiafliaid ddêl
Trowch ati'r trueni trwch,
Ellyllon! gwnewch oll allwch.


"I ti, O Angeu, heddyw y tyngaf,
Mai am ddialedd mwy y meddyliaf;
Eu holl filwyr, luyddwyr, a laddaf,
Un awr eu bywydau ni arbedaf;
Oes, gwerth, i hyn aberthaf,—gwânu hon
Drwy ei chalon fydd fy ymdrech olaf.
"Oni ddichon i ddichell,
Na chledd na nych, lwyddo'n well?

Dichell Iorwerth.

"Ha! ha! Frenin blin, i ble
Neidiodd dy siomgar nwyde?
Oferedd, am hadledd hon,
Imi fwrw myfyrion;
Haws fydd troi moelydd, i mi,
Arw aelgerth, draw i'r weilgi,
Nac i ostwng eu cestyll,
Crog hagr, sef y creigiau hyll.