Tudalen:Gwaith Alun.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CERDD CALAN GWYLIEDYDD Y WYDDGRUG.

Ymysgydwch o'ch cysgadrwydd—
Yn filoedd dowch i foli Duw;
Torrodd gwawr ar flwyddyn newydd,
Gobeithiaf mai un ddedwydd yw
Mae pob Calan fel yn gwaeddi,
A'r tymhorau bob yr un,—
Yn eu dull yn dwys bregethu—
"Derfydd dyddiau byrion dyn."

Heddyw'm gorchwyl innau dderfydd,
Alwai'n chwaneg mo'no chwi;
Drwy fy nghylch yn bur wyliedydd
A lladmerydd y bum i;
Mi fynegwn ddull y tywydd,
P'un ai teg ai garw'r gwaith,
Fel y gwypech ar obenydd
Ai addas oedd y dydd i daith.

Do, mi wyliais gylch eich drysau
Ar ryw oerion oriau hir,
Rhag i ddynion drwg eu nwydau
Dorri eich aneddau'n wir;
Tywydd garw, mwy nag oerni,
Ni wnai nhroi oddiar fy nhaith,
A chan ofal i'ch gwas'naethu
Methais gysgu lawer gwaith.

Daeth fy ystod at ei therfyn,
Darfu'm tro oddeutu'ch tre',
Un galenig wyf yn ofyn
Am fy llafur yn y lle;
Chwi sy'n meddu da a moddion—
Digon sy'n eich llety llawn,—
Gwnai ychydig o'ch gweddillion
DIC a'i deulu'n llawen iawn.