Tudalen:Gwaith Alun.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Holl natur bur heb wyro,
Sy'r un fraint i'r seirian fro,
A phan oedd, yn hoff ei nerth,
Briod-fan pob dawn brydferth.


"Yma gwir Ryddid, a'i mŷg aur roddion,
Sef celfyddydau a doniau dynion
Rhin a roi eil-oes i'r hen wrolion,
A gair odiaethawl i'w gorau doethion,
A wnaent gynt i helynt hon—anrhydedd,
Ynt, (ddi-hoff agwedd) o tan ddiffygion."

Wrth eu haraith, effaith ddig,
Dawn y wlad, yn weledig,
Fal yspryd tanllyd o'u tu,
A wnae'n anadl enynnu,—
Gan ddangos, yn achos Ner,
A'i fendith, a'i gyfiawnder,
Y mawr fri o dorri'r dîd,
I ymroddi am Ryddid.


Pwy ar alwad, a piau wroliaeth,
Ni ddaw i'w dilyn, a nawdd o'i dalaeth,
A rhin fal arwyr yr hen filwriaeth,
Draw a hwylient i Droia ehelaeth,
Os y goll o Ryddid sy' gwaeth—na'r hen
Golled o Helen, gai hyll hudoliaeth?


Hen anghrist, un athrist oedd,
O'r tu arall i'r tiroedd,
A gododd,—gwaethodd drwy'r gad,
Ar fìloedd i'w rhyfeliad
Un oedd o'r rhai aneddant
Uffern boeth yn ei ffwrn bant,—
Hoffai lid a gofid gau,
A'i llwydd ydoedd lladdiadau;
Seirph tanllyd, gwaedlyd eu gwedd,
Gwenwynig, (gwae anhunedd)