Prawfddarllenwyd y dudalen hon
HAWDDAMOR.
Englynion ar agoriad Eisteddfod Caerwys, 1823.
Hawddamor bob gradd yma,—orwych feirdd,
Rhowch fyrddau 'ni wledda;
Lluman arfoli Minerfa
Sydd uwch Caerwys ddilys dda.
Bu Caerwys, er pob corwynt—a 'sgydwai
Weis cedyrn eu tremynt,—
Er braw, anhylaw helynt,
Nyth y gain farddoniaeth gynt.
Troi o hyd mae byd heb oedi—â'n isel,
Mewn oesoedd, brif drefi;
Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi,
Awr i Gaerwys ragori.
DAFYDD IONAWR.
Englyn o fawl i'r Bardd clodwiw am ei ymdrechiadau haeddbarch
i ddiddyfnu yr Awen oddiwrth ffiloreg a sothach,
a'i chysegru i wasanaeth rhinwedd a duwioldeb.
Yr Awen burwen gadd barch,—unionwyd
Gan IONAWR o'i hamharch;
Hefelydd i glaf alarch
A'i mawl yw yn ymyl arch.