Tudalen:Gwaith Alun.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

EISTEDDFOD Y WYDDGRUG.

AT MR. E. PARRY, CAERLLEON

Wyddgrug, Awst 16eg, 1823

Goroian! goroian! Mr. Parry anwyl. Bydd Callestr yn enwocaf o'r enwogion eto. Yr ydwyf newydd ddychwelyd o ystafell y dirprwywyr yn y Leeswood Arms, lle y cydsyniodd y gwladgarol Syr Edward Llwyd i gymeryd y gadair yn ein Heisteddfod; a rhoddodd £5 at ddwyn y draul. Gosododd y mater o flaen yr uchel-reithwyr (grand jury) am y Sir, a thanysgrifìodd pob un o honynt bunt, gydag addaw ei noddi. Taflodd yr Uchel-sirydd ei deir-punt at y draul, gan addunedu, er mai Sais oedd, y byddai iddo noddi athrylith gwlad ei henafiaid hyd angeu. Dyma ddechreu yn iawn onide! Bellach, fy nghyfaill, ni raid i chwi wrido wrth son am eich sir gynhennid. Mae tân yn y gallestr, ac wedi ei tharaw o dde, hi a wna holl Gymru "yn brydferth goelcerth i gyd." Gosododd Callestr yr engraifft i holl siroedd eraill Cymru, trwy gymeryd y peth yn orchwyl y sir, yn y cyfarfod uchaf sydd ganddi.

Nid oeddym ar y cyntaf yn meddwl ond am un bunt yn wobrau am y cyfansoddiadau goreu; maent yn awr wedi eu codi i bump, a disgwylir pan y cyferfydd y dirprwywyr nesaf y gellir eu hychwanegu eto. Dyna'r pryd y llwyr benderfynir ar y testynau, yr amser, y barnwyr, a'r gwobrau; a byddaf yn sicr o anfon rhai o'r hysbysiadau argraffedig yn gyntaf oll i fy nghyfaill caredig a gwresog o Gaer, heb ddymuno mwy na'i weled yn ymgeisiwr llwyddianus.