Tudalen:Gwaith Alun.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mi a glywais fod Mrs. Parry a'i mab yn iach galonnog.—Dyma i chwi ychydig rigwm a gysoddais wythnos neu ddwy yn ol, ar destun a mesur cân ragorach y doniol Erfyl. Chwi a welwch wrthi mai amcan at annerch y "gwr ieuanc dieithr" ydyw, fel pe buaswn wyddfodol.

Henffych, amhrisiadwy drysor,
Blaenffrwyth y serchiadau mâd;
Ni fedd natur bleser rhagor
Na theimladau mam a thad.

Wrth olygu'th wyneb siriol,
Gaiff dieithr godi ei lef,
'Mhell uwchlaw syniadau bydol—
Erfyn it' fendithion Nef?

Nid am gyfoeth, clod, na glendid
Caiff fy nymuniadau fod;
Dylai deiliaid tragwyddolfyd
Gyrchu at amgenach nod.

Boed i'th rudd sy'n awr a'i gogwydd
At y bur dyneraidd fron,
Ddangos oedran diniweidrwydd,—
Gwisged bob lledneisrwydd llon.

Dy wefus sydd wrth ei chusanu
'N ail i rosyn teg ei liw,—
Boed i hon yn ieuanc ddysgu
Deisyf am fendithion Duw.

Na wna achos wylo defnyn
O'r llygaid 'nawr mewn cwsg sy'n cloi,
Ond i dlodi dyro ddeigryn
Os na feddi fwy i'w roi.

Dy ddwy law, sy'n awr mor dyner,
Na bo iddynt gynnyg cam;