Tudalen:Gwaith Alun.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MAES GARMON.

Rhagymadrodd

Boed Hector flaenor a'i floedd,
Eirf Illium a'i rhyfeloedd,
Groeg anwar mewn garw gynnen,
Bynciau y per Homer hen;
Hidled Virgil, wiwged was,
Wîn awen uwch Æneas;
Gwnaed eraill ganiad eurwedd
Am arfau claer,—am rwyf cledd,
Byllt trwy dân gwyllt yn gwau,
Mŵg a niwl o'r magnelau;
Brad rhyw haid, a brwydrau hen,
Oes, a phleidiau Maes Flodden; [1]
Gwarchau, a dagrau digrawn,
Cotinth a Valencia lawn, [2]
Eiliant bleth, a molant blaid
Gywreinwych ei gwroniaid.

Mae gennyf yma i ganu
Fwy gwron, sef Garmon gu;
Ag eirf dig eu gorfod oedd,
Gorfodaeth braich gref ydoedd;
Hwn gadd glod a gorfodaeth
Heb ergyd na syflyd saeth;
I lu duwiol a diarf
Yn wyrth oedd,—ac heb nerth arf;
Duw yn blaid, a wnae eu bloedd
Heibio i ddawn y byddinoedd.

  1. Flodden Field, by Sir Walter Scott.
  2. Siege of Corinth, by Lord Byron; and Siege of Valencia, by Mrs. Hemans.