Tudalen:Gwaith Alun.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Y môr uthr udawl, a'i dra mawr ruthriadau,
Y sydd fel moelydd uwch y cymylau;
Yr wyt ti, Ynad, ar warr y tonnau,
Yn trefnu hynt y chwerw-wynt i chwarau;
Cesgli'r gwynt chwyrn i'th ddyrnau,—yn sydyn,
Arafa wedyn bob cynhyrfiadau.

"Pa ragor in' for yn fedd
Na gwaun dir i gnawd orwedd?
Cawn i'th gôl o farwol fyd,
Yn nydd angeu'n hawdd ddiengyd,—
Mae'n calon yn boddloni
I uniawn drefn Un yn Dri."

Pan ar ben gorffen y gân
Y terfynai twrf anian;
Clywai'r Un sy'n cloriannu
Rhawd, o'r ser i'r dyfnder du
Arafodd, llaesodd y lli,
Trychineb, a'r trochioni;
Môr a nen ymyrrai'n ol,
I ddistawrwydd ystyriol;
Deuai hwyl a da helynt
Y donn yn gyson â'r gwynt;
Mewn un llais rhoent hymnau'n llon,
I'r hwn a roes yr hinon;
Yna y chwai dorrai dydd,—
Dyna lan Prydain lonydd.
Doe'r llong, ar ddiddan waneg,
I ben y daith—Albion deg.