Tudalen:Gwaith Alun.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Deffroai gantorion llon y llwynydd
I bereiddio awelon boreu-ddydd,—
A pher wawd i'w Creawdydd,—trwy'r wiw-nen,
O ferion awen,—am foreu newydd.


Bwrid ar hyn heb eiriach,
Ganiadau o bigau bach;
Eu glwys-gerdd lanwai'r glasgoed,—
Caniadau rhwng cangau'r coed;
Gwna bronfraith dasg ar las-gainc,
Trwsio'i phlu a chanu'i chainc.


Yna llon ganai llinos—i gynnal
Cerdd geinwech yr eos,
Ymorau heb ymaros,
I Geli am noddi'r nos.


A seiniai, pynciau pob pig
I'w Creawdwr caredig;
Nes yr aeth yn mhen ennyd
Yr wybr fan yn gân i gyd.

Esgynnent, troent eu tri
I balawg Fryn y Beili,
I weld y wlad,—ferthwlad fau,—
Rhedai Alun trwy'i dolau
Dyffrynol, breiniol a bras,
Oll yn hardd a llawn urddas;
Duw Celi oedd gwedi gwau
'N gywrain eu dillad gorau;
Deor myrr, neithdar, a mêl,
Yn rhywiog a wnae'r awel;
Aroglai'r manwydd briglas,
Y bau a'i chwrlidau'n las;
A diffrwyth lysiau'r dyffryn
Gwlithog, fyrdd, mewn gwyrdd a gwyn.