Tudalen:Gwaith Alun.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Heno o'u balch lu, ni bydd
Un i leidio'n haelwydydd;
Trwy ryfel dihefelydd,
Ac enw Duw,—cawn y dydd!
Y'mlaen! pur yw'n hantur hon!"
"Arafa, danbaid Rufon!"
Eb Garmon,—"Er pob gormes
Yn fur prawf, yn farrau pres,
Mae telid gadernid Iôn
Is awyr o gylch Seion;
Ei phen a'i hamddiffynydd
Yw'r Duw sy'n Greawdwr dydd;
Ein hiawn bwys yn hyn, O bid
Ar Dduw a'i wir addewid;
A Duw a'n cyfyd ni, cofiwn,
Y diwedd o'r hadledd hwn;


"Y Duw a barai fod aberoedd
O sawr diliau, mewn cras ardaloedd,
I gynnal ei blant gannoedd,—â dwfr fal
Gwawr y grisial o graig yr oesoedd,
Ac a lywiai Iago a'i luoedd
Mawr a difraw, rhwng muriau dyfroedd,—
A Pharaoh a'i anhoff yrroedd—wnai gau
O fewn dorau y gorddyfnderoedd;
Y Duw hwnnw gyfyd hinon
Awyr dawel, o oriau duon,
Dilai gwared ei deulu gwirion
Rhag galanas a rhwyg gelynion;
Y Duw fu'n blaid Gedeon, rwystra i yrr
Yr un o'r Brithwyr wanu'r Brython."


Trwy galon Rhufon yr aeth
Cywir donau crediniaeth;
Distawodd, lleddfodd y llu,
Eu gwelw wawr a'u galaru;