Dyferai eu clodforedd,
Drwy'r glynnau yn hymnau hedd;
Ac yn eu plith canai plant,
Swn melus atsain moliant.
Yna'r saint mewn eres hwyl
A anerchent,—iawn orchwyl—
Araf lef i'r dyrfa lân,
Dorrent ollyngdawd eirian.
"Ein Ner, mewn blinder, fu'n blaid
I'w wâr union wirioniaid;
Duw'n y blwng wrandawai'n bloedd,—
Boddai yna'r byddinoedd.
"Eurawg olwynion hen Ragluniaeth,
Barai'r dolydd, y wybr a'r dalaeth,
I wyrthiol adsain germain gaeth,—Alun
Foddai y gelyn,—caem fuddugoliaeth.
"Duw Ner roes yr hoewder hwn,
I'n Duw eilchwaith diolchwn;
Llawforwyn fu'r llifeiriant,
Gyda bloedd i gadw ei blant.
"Iolwn na byddo'i wiwlwys—ogoned,
Ac enaint Paradwys,
Gilio oddiar Gwalia ddwys,
Na'u aroglau o'r Eglwys.
"Duw'r hedd fo'n eich harwedd chwi,
Drwy genedl lawn drygioni;
A chwedi oes heb loes lem,
Noswyliaw boch yn Salem."
Hwy wahanent ar hynny,
Heb wybod ofn,—bawb i'w dŷ;
A'r lleddf ddau genadwr llon
Draw hefyd i dŷ Rhufon.