Tudalen:Gwaith Alun.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac ar hwyl deg, yr ail dydd,
Dwyrëent mewn dir awydd,
I rodio i lawr at ffrwd lâs,
Glennydd lle bu galanas
'Nawr aber, fel arferol,
Ydoedd hi ar hyd y ddol;
Ciliai'r dylif, clwy'r dylaith,
A'i dwrf oll, pan darfu'i waith;
Dai'r ardal yn dir irdeg,
Lle berwai tonn, ddai'n llwybr teg
Gwelent hwy, wrth geulan tonn,
Gelanedd eu gelynion;
Yn dyrrau, 'n rhesau di ri,
O'r Belan hyd i'r Beili.

Gwelai Rhufon dirionwawr,
Ar hyn, ryw lencyn ar lawr.
Ei ddull, ei wedd, a'i ddillad,
A'i lun, oedd fel un o'r wlad.
Craffai arnaw—draw fe drodd,
A lliw egwan llewygodd;
Oherwydd y tramgwydd trwm
A ddyrysodd ei reswm;
Drwy'i galon a'i dirgeloedd,
Safai bâr,—can's ei fab oedd;
Ei deulu o'i ddeutu ddaeth,
Gan weled ei ddygn alaeth;
Rhoent uwch ei fab, drygfab,—dro
Eu ced olaf,—cyd-wylo;
Uchel oernych alarnad
Wrth ei ddwyn fry i dŷ i dad
(Gwyddent mai dilyn geu-dduw,
A dal dig, a gadael Duw,—
Trwy lithiol rai ffol, di-ffydd,
Wnai ei ddwyn i'w ddienydd!)