Tudalen:Gwaith Alun.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bellach, saint, eich dagrau sychwch,
T'rewch y gu dragwyddol gân,
C'weiriwch eich telynau, cenwch
Wyrthiau eich Gwaredwr glân
Dwedwch iddo fathru'r gelyn,
'Speilio lluoedd certh di ri',
T'wyso angau du mewn cadwyn,
A chysegru'r bedd i chwi.

Bloeddiwch, 'Ryfedd Frenin Sion,
Doed y ddaear dan dy iau!
Ganwyd ti'n Waredydd dynion,
Wyt yn gadarn i iachau.'
Gofynnwch wedyn i'r anghenfil,
'Ple mae'th golyn oer yn awr?
Fedd ymffrostgar, ddu dy grombil,
P'le mae'th fuddugoliaeth fawr?'


ENGLYN I ANNERCH MISS COTTON, OFYDDES.
Eisteddfod y Trallwm, 1824

Gwalia lwyd lonnwyd eleni,—Awen
Flodeua fel lili;
Bron bun yw ei gardd hardd hi,—
Hil anwyl hael Lyweni.