Tudalen:Gwaith Alun.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

I ———

FY anwyl ferch, delw'm serch, clyw annerch clwy enaid,
Tro'ist yn ddu'r cariad cu, a chanu'n ochenaid;
A oedd un llaw drwy'r dref draw i nharaw'n anhirion?
A oedd yn mhleth, at y peth, ddwrn yr eneth union?
Yn wir dy ŵg dagrau ddwg i'r golwg o'r galon,
Oni chaf hedd af i'm bedd i orwedd yn wirion.

P'le mae'r gred, gofus ged, adduned oedd anwyl?
Ai si a siom yr amod drom unasom ryw noswyl?
P'le mae'r drem, fel gwawr gem, a luniem dan lwynydd?
Torrai'n syn swyn y llyn, y delyn, a'r dolydd
Yn iach i'th wedd, mi wela 'medd, wan agwedd yn agor;
Dywed di, fy mun, i mi, a wyli ar fy elor?

Pan weli sail y bedd, a'r dail ar adail mor hoewdeg,
Ac uwch y tir, ysgrif hir, o'r gwir ar y garreg,—
Mai d'achos di, greulon gri, fu'n gwelwi'r fau galon;
Ai dyma'r pryd, daw gynta'i gyd, iaith hyfryd o'th ddwyfron?
Gorchwyl gwan rhoi llef drwy'r llan, troi'r fan yn afonydd,
Rhy hwyr serch felly, ferch, i'm llannerch bydd llonydd.