Tudalen:Gwaith Alun.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHYDYCHEN

AT GYFAILL

Athrofa'r Iesu, Rhydychen,
Rhagfyr 19, 1824

Gobeithio eich bod yn myned y'mlaen gyda Lladin. Ni wyddoch pa beth a all esgor. Gallaf addaw y cewch fwy o bleser na thrafferth yn dysgu; a gwn na byddai yn boen i'ch meddwl llym chwi dreiddio iddi ar amnaid. Mi a ddatguddiaf i chwi fy amcan wrth eich cynghori fel hyn. Os gallwch, trwy eich llafur eich hun, ymhyfforddi yn yr ieithoedd dysgedig,—os addunedwch beidio croesi trothwy tafarn yn y Wyddgrug,—os peidiwch a chyfeillachu a neb ond dynion parchus, a phrin â rhai'ny,—os byddwch ddyfal yn eich sefyllfa,—os gyrrwch ambell i ddernyn i'r Eisteddfodau, er mwyn tynnu sylw,—os ymddygwch bob amser yn syml, cyson, a gostyngedig,—ac os, gyda hyn oll, y llwyddwch i dynnu cyfeillgarwch y goreu o ddynion, Mr. Clough—meddyliwn na byddai yn anhawdd nac yn dreulfawr i chwi gael trwydded yma. Y mae eich synwyr yn ormod i adeiladu dim ar hyn, nac i yngan gair yn ei gylch i gyfaill eich mynwes. Pa beth a all cardotyn fel fi ei addaw?

Byddai yn dda gennyf pe rhoddech ddiofryd cadarn na sangech ar lawr unrhyw dafarndy yn y Wyddgrug byth. Y mae fy mynwes i yn gwaedu heddyw gan y clwyfau a dderbyniais ynddynt. Ni welais gyfaill da o fewn eu muriau erioed, ac ni welais un niweidiol iawn y tu allan.