Tudalen:Gwaith Alun.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ni wna ymddygiad isel a buchedd rinweddus a duwiol eich amddifadu o unrhyw bleser teilwng o'r enwyn hytrach gwna i'ch cwpan redeg trosodd—addurna chwi ger bron eich gwlad—a thywysa chwi at ffynnon a arllwys ei dwfr pan y bydd Alyn, a Helicon hefyd, wedi sychu. Hyderaf na ddigiwch am yr hyfder a gymerais. Gwiriaf i chwi iddynt ddylifo oddiar deimlad mor bur ag a gurodd erioed ym mynwes tad. Gwn eich bod yn agored i lawer o demtasiynau, y rhai a gynyddant po fwyaf y deloch i sylw y byd. Gwn, hefyd, fod eich cysur amserol a thragwyddol yn ymddibynnu ar eu gorchfygu. Gwyddoch chwithau fod rhan fawr o fy nghysur innau ynglyn wrthych fel cyfaill fy ieuenctyd. Bellach, ai gormod im' am unwaith ddringo Ebal? Do, fy nghyfaill, cefais i wybod trwy brofiad trist fod deniadau cyfeddach yn llymach na saethau cawr, ac yn chwerwach na marwor meryw. Mi syrthiais i ymhlith y lladdedigion. Tybiodd fy nghyfeillion ddarfod am danaf byth, a gadawsent fi i'm tynged. Ond, trwy y moddion rhyfeddaf, dywedodd y Gwr y rhyfelais yn ei erbyn, "yn dy waed bydd fyw." Cefais yn barod lawer prawf o'i diriondeb; ac nid ydwyf yn cwbl anobeithio cael, o radd i radd, fy nerbyn i'w fyddin ac i gludo ei faner. Hyd yn hyn, y mae fy mriwiau yn rhwystro imi gydio mewn arf; ac yr ydwyf yn treulio fy oes gan y mwyaf wrth odreu Sion; ac weithiau, wrth godi'm llaw at ddail y pren sydd yn iachau'r cenhedloedd, dymunwn amneidio â'r llall at fy nghyfeillion, i beri iddynt ochel y llannerch lle y derbyniais i y saeth a lynodd yn fy nghalon.