Tudalen:Gwaith Alun.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

AT LENOR
(MR. E. PARRY, CAERLLEON.)

Athrofa'r Iesu, Rhydychen,
Chwefror 25ain, 1825.

Y mae yn ddywenydd mawr genyf ddeall fod eich Cymdeithas yn gwellhau yn ei hamcanion fel y mae ei gallu yn cynyddu. Hwyrach na lwyddwch i gael cyd-ymdrechiad y Boneddion a enwasoch;—rhai o herwydd eu hoerfel at yr achos Cymreig,—a llawer am fod rhannau eraill o'r wlad yn galw am eu gwasanaeth yn fwy na Chaer, un ai o herwydd cymydogaeth, neu feddiannau. Er hynny, pe na enillech ddim ond ymegniad gwresog ac unfryd trigolion eich tref eich hunain, byddai yn werth eich trafferth, a gallwch wneuthur gwyrthiau.

Y mae yr Iaith Gymraeg yn deilwng o'i choleddu, ac eneidiau Cymru yn werth eu cadw. Chwi a gewch fy nymuniadau goreu i, os ydynt werth rhywbeth, a phe byddai gennyf well, chwi a'i caech.

Buoch yn ddedwydd iawn gael Mr. Richards yn Gapelwr,—y mae'r gŵr hwnnw yn addurn i bob Cymdeithas lle byddo. Yr ydwyf agos yn eddigeddu y pleser a gewch ar eich Cylchwyl, ac er hynny yn ewyllysio i chwi fil mwy. Rhaid i mi gadw gwyliau Homer ddall yn lle Dewi Sant, ac aros fel mynach yn fy nghell yn lle troedio'r heolydd i ddangos fy "nghenin," a gadael i'm henaid lesmeirio wrth gyngan y delyn. Ond rhaid boddloni, ac yr ydwyf yn foddlon ac yn ddiolchgar.