Tudalen:Gwaith Alun.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oeddych yn ymholi pa fodd yr ydwyf yn byw yma.—Credwch fi,—mor syml a diniwed â Meudwy, a mor ddedwydd â Thywysog. Cof am gartref a hen gyfeillion sydd weithiau yn cynhyrfu hiraeth ynof am wlad fy ngenedigaeth, a dyna'r unig ddefnyn chwerw sydd yn fy nghwpan. Y mae penaethiaid yr Athrofa yn dirion i'r eithaf, a chyd-astudwyr mor gyfeillgar ag y gallwn ddymuno.

Yr oeddwn wedi bwriadu englynion i chwi a math o awdl i'ch Cymdeithas; ond hawdd i chwi feddwl nad oes gan un a ymunodd â'r Brifysgol y'mhen pum' mis wedi cydio gyntaf mewn Ieithiadur nemawr amser i gysoddi dim. Pa fodd bynnag, dyma ryw bethau yn llun englynion "Ar y ffolineb o wadu Iaith gynhenid," a ddymunwn gyflwyno i'ch Cymdeithas a chwithau, i aros gwell.

A wirionwyd ar unwaith—yr adyn
Pan redai i estroniaith,
I wadu'i wlad, gyda lediaith,
Gwawdio hon, a gwadu ei hiaith?

A yw'n gywilydd gan ei galon—iaith serch
Iaith su ei fam radlon?
Ddyddiau hir, mor dda oedd hon
I ynganu angenion?

Ai gwr yw a gâr awen—heb arddel
Iaith beirddion disgywen?
Ai un am les hanes hen
Wrthoda chwaer iaith Eden?

Iaith oedd araeth i ddewrion,—wroniaid
Drwy enwog ymdrechion,
Tan eu heirf bloeddient yn hon
"Trowch i'r gad! tr'ewch ergydion!"